Prosiectau / Projects

Cerddoriaeth / Music & Dementia

Corneli Cudd

Forget-me-not-Chorus

 


Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn ein bywydau ni i gyd.

Bu Manon yn rhannu ei cherddoriaeth â phobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal amrywiol yng Ngogledd Cymru.

“Roedd fy mhrofiad cyntaf o weithio gyda dementia ar brosiect o'r enw Corneli Cudd, Pontio. Profiad emosiynnol iawn ar adegau a teimlo braint o gael bod ar ben arall gwên y bobol.”

Mae’r ffilm ddogfen fer ‘Cân i Emrys’ yn enillydd BAFTA Cymru ac yn ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith a wnaed o fewn y prosiect hwn.

Gellir taro mewn i fwy o sesiynau ar youtube o dan y teitl ‘Corneli Cudd.’



Music plays such an important role in all our lives. Manon has shared her music with people living with dementia in various care homes in North Wales.

“My first experience of working with dementia was a project called Hidden Corners, Pontio.

It’s quite an emotional experience at times and I feel privileged to be at the receiving end of peoples’ smiles.”

This BAFTA Cymru documentary winner ‘Cân i Emrys’ (a song for Emrys) was a direct result of the work done within this project.

For more videos on the project, go to youtube and type in ‘Corneli Cudd.’

 

Forget -me-not-Chorus

Mewn tiwn hefo’n gilydd
EDITED NW 0131_Forget Me Not Chorus (PRINT)-6880.JPEG

Trwy gân, mae’r ‘The Forget-Me-Not Chorus’ yn dod â mwynhâd a hapusrwydd i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae'r Corws yn rhoi cyfle i'r rhai â dementia a'u hanwyliaid gael hwyl yn canu gyda'i gilydd.

Gyda naw corws sefydledig yn Ne Cymru, mae Manon wedi derbyn rôl arweinydd cerddorol yn y Gogledd fel y gall y gwaith leadenu trwy Gymru.

Dyma brosiect arall rwy'n hynod falch o fod yn rhan ohono. Mae'n anrhydedd i mi fod yn arwain corws cyntaf Gogledd Cymru. Am bob cân ryda ni'n ei chanu gyda'n gilydd rydw i'n cael fy ysbrydoli fwyfwy i gyfansoddi. ”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr elusen ar www.forgetmenotchorus.com

Lluniau Brian Roberts

In tune with each other
IMG_6455.png

Through song, the ’ Forget-Me-Not Chorus' brings enjoyment and happiness to people living with dementia. The Chorus creates an opportunity for those with dementia and their loved ones to have fun singing together.

With nine well established choruses in South Wales, Manon has taken on board the role of music leader in the North so that the work may branch out through Wales.

“Here is another project I am immensely proud to be a part of. I am honoured to be leading the first North Wales chorus. For every song we sing together I become more and more inspired to compose.”

You can find more information about the charity on www.forgetmenotchorus.com

Photography Brian Roberts